Lleoliad:
Hybrid (Ystafell Pwyllgor 5)
Dyddiad: Dydd Llun, 12 Mehefin 2023
Amser:
13.00 -
16.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13363
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Dr Stephen Burrell, Durham University Dr Nathan Eisenstadt Dr Rachel Fenton Anne-Marie Lawrence, Plan International UK |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Claire Thomas (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates a’r Athro Zara Quigg.
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
2 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 4
Clywodd yr
Aelodau dystiolaeth gan:
Anne-Marie Lawrence, Rheolwr Datblygu Cymru, Plan UK
Dr Stephen Burrell, Athro Cynorthwyol (Ymchwil), Prifysgol Durham
3 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 5
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:
Dr Rachel Fenton, Athro Cyswllt yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerwysg, a Chyfarwyddwr Kindling Transformative Interventions
Dr Nathan Eisenstadt, Uwch Gydymaith Ymchwil Anrhydeddus, Prifysgol Caerwysg; Uwch Gydymaith Ymchwil, Prifysgol Bryste; a Chyfarwyddwr Kindling Transformative Interventions
4 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau ac, mewn sesiwn breifat, mewn perthynas ag Eitem 4.4, cytunwyd y dylid ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip i ofyn am eglurhad pellach ynghylch nifer o bwyntiau a godwyd yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor.
4.1 Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref: Y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar Sail Rhyw yn Gyhoeddus
4.2 Gohebiaeth rhwng y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch hygyrchedd gwybodaeth
4.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch gweithredu Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol
4.4 Ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “60% - Rhoi llais iddyn nhw: Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid”
4.5 Gohebiaeth rhwng y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch Bil Mudo Anghyfreithlon Llywodraeth y DU
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.
6 Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: trafod y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Mudo Anghyfreithlon: trafod yr ymatebion
Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.